Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu

Polisi Preifartwydd

Polisi Preifatrwydd a Chwcis


Mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), yn gweithredu trwy ei adran DairyCo, yn cymryd preifatrwydd ei ddefnyddwyr o ddifrif.  Nid yw’r wefan hon yn casglu neu’n storio gwybodaeth bersonol yn awtomatig, ar wahân i fewngofnodi cyfeiriad IP y defnyddiwr a gwybodaeth sesiwn, megis hyd yr ymweliad a’r math o borwr a ddefnyddiwyd.  Cydnabyddir hyn gan weinydd y wefan, ac fe’i defnyddir i weinyddu’r system, a darparu ystadegau dienw a ddefnyddir gan adran DairyCo o AHDB i werthuso a gwella’r safle’n unig.

Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol os ydych chi am fanteisio ar wasanaethau penodol a gynigir gan adrannau AHDB.  Trwy gyflwyno’ch gwybodaeth bersonol ar ffurf electronig, neu trwy ddefnyddio’r safle hwn, rydych yn caniatáu inni brosesu a storio’r holl wybodaeth bersonol a roir gennych yn y modd, ac i’r dibenion a ddisgrifir isod:
 
•    At ddibenion marchnata ac ymchwil marchnata AHDB ac adrannau AHDB;
•    I weinyddu’r wefan hon yn fewnol a’n helpu i wella’n gwasanaethau;
•    I weinyddu unrhyw gystadlaethau y byddwch yn rhoi cynnig arnynt, ac i gysylltu â chi petai’ch cynnig yn llwyddiannus.
 
Bydd AHDB yn prosesu a storio’r holl wybodaeth bersonol a roir gennych yn unol â’r gyfraith berthnasol, ac yn arbennig bydd yn sicrhau bod yna fesurau diogelwch priodol yn eu lle i’ch amddiffyn rhag unrhyw achos o golli, camddefnyddio neu newid yr wybodaeth a ddarperir gennych, a bydd yn cadw’ch data personol am y cyfnod sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, neu i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol perthnasol.
 
Gallwch ofyn am ddileu neu ddiwygio unrhyw ddata personol a gedwir amdanoch drwy gysylltu â ni ar [email protected] a byddwn yn gwneud y dileu neu’r diwygio’n amodol ar unrhyw ymrwymiadau cyfreithiol perthnasol a osodir arnom.
 
Mae’r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer gwefan ‘this is dairy farming’: www.thisisdairyfarming.com.  Nid yw ar gyfer gwefannau eraill o fewn Grŵp AHDB na gwefannau trydydd parti y mae dolenni cyswllt ar eu cyfer ar y safle hwn.

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei reoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr.

Defnyddio Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur gan rai gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw.  Fe’u defnyddir yn aml i helpu gwefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal ag i ddarparu gwybodaeth am berchnogion y safle.

Nid yw AHDB  yn gosod unrhyw gwcis i gasglu gwybodaeth adnabod bersonol amdanoch chi.  Os digwydd i hyn newid yn y dyfodol, byddwn yn rhoi gwybod i ymwelwyr ac yn darparu canllawiau ar reoli a dileu cwcis o’r fath.

Mae’r safle hwn yn defnyddio cwmni analytig trydydd parti (Google Analytics) i ddarparu ystadegau dienw am ymwelwyr, i’n galluogi i wella perfformiad ein gwefan.  Mae’r cyfleuster analytig hwn yn gosod ei gwci ei hun i berfformio’r gwasanaeth hwn.  Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw, am faint o amser rydych chi ar y safle, sut gyrhaeddoch chi yma, a beth rydych chi’n clicio arno.  Ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod chi, ac nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu’n data analytig.

Gallwch gyfyngu ar, neu atal cwcis drwy osod eich porwr i wneud hynny.  Ceir gwybodaeth ar sut i wneud hyn yn adran Gymorth eich porwr.  Hefyd, mae’r wefan www.aboutcookies.org yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar sut i reoli’r ffordd mae cwcis wedi’u gosod ar gyfer amrywiaeth eang o borwyr.  Mae hefyd yn darparu manylion ar sut i ddileu cwcis o’ch cyfrifiadur, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am gwcis.  Ar gyfer porwyr ffonau symudol a thabledi gall fod angen ichi ddefnyddio llawlyfr eich ffôn.

Dylech ddwyn i gof y gall cyfyngu ar gwcis amharu ar y ffordd mae’r gwefannau rydych yn ymweld â nhw’n gweithio.

 Telerau ac Amodau Defnyddio

Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) sy'n berchen www.thisisdairyfarming.com, sef corff Cyhoeddus Anadrannol a sefydlwyd dan Orchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008, sy’n cael ei ariannu gan lefi statudol. Mae AHDB yn gweithredu'r wefan hon drwy ei adran DairyCo.
 
Mae eich defnydd chi o wefan thisisdairyfarming.com a'r wybodaeth a geir arni yn amodol ar y telerau a'r amodau canlynol. Mae'ch defnydd parhaus o'r wefan hon yn dynodi eich bod yn eu derbyn yn eu cyfanrwydd, heb unrhyw newidiadau. Mae AHDB yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau a'r amodau hyn. Bydd rhybudd ynghylch unrhyw ddiwygiadau o'r fath yn cael ei roi ar wefan www.thisisfarming.com

Mae'r holl ddeunydd sy'n cael ei gynnwys ar y wefan at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid yw'n fwriad iddo fod yn gyngor cyfreithiol na phroffesiynol.
 
Dylai defnyddwyr gymryd camau gweithredu priodol i wirio'r wybodaeth a ddarperir, ac ni ddylent weithredu nac ychwaith ymatal rhag gweithredu ar yr wybodaeth a geir ar wefan www.thisisdairyfarming.com heb yn y lle cyntaf wirio'r wybodaeth, a chael cyngor cyfreithiol a/neu gyngor proffesiynol eu hunain. Gellir newid neu ddiweddaru'r wybodaeth heb rybudd.

Mae AHDB trwy gyfrwng ei adran DairyCo yn darparu gwefan www.thisisdairyfarming.com  ‘fel y mae’ ac nid yw’n gwneud gosodiadau na gwarantau o unrhyw fath mewn perthynas â gwefan www.thisisdairyfarming.com na’i chynnwys, ac mae’n gwadu’n bendant unrhyw osodiadau a gwarantau o’r fath.
 
Yn ogystal nid yw AHDB yn gwneud unrhyw osodiadau  na gwarantau ynghylch cywirdeb, cyflawnrwydd neu addasrwydd at unrhyw ddiben, yr wybodaeth a'r deunydd graffig perthynol a gyhoeddir ar wefan  www.thisisdairyfarming.com.
 
Gall yr wybodaeth ar wefan www.thisisdairyfarming.com gynnwys anghywirdebau technegol neu wallau argraffyddol.
 
Mae holl atebolrwydd AHDB a'i adran DairyCo, ym mha bynnag fodd y bydd yn codi (gan gynnwys esgeulustod) ar gyfer gwallau o'r fath wedi’i eithrio'n benodol hyd y graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
 
Ni fydd AHDB nac unrhyw un o’i swyddogion, cyfarwyddwyr, gweithwyr neu gynrychiolwyr eraill, yn atebol am unrhyw golled neu niwed yn sgil, neu’n gysylltiedig â defnydd o’r wefan www.thisisdairyfarming.com

Mae hwn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar atebolrwydd sy'n berthnasol i bob iawndal o unrhyw fath, gan gynnwys (heb gyfyngiad) iawndal cydadferol, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, colli  data, incwm neu elw, colled neu niwed i eiddo (p'un ai gafwyd cyngor ynghylch y posibilrwydd o golli ai peidio) a hawliadau gan drydydd parti.
 
Er gwaethaf yr uchod, ni fydd dim o'r eithriadau a'r cyfyngiadau yn y telerau a'r amodau hyn yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr dan gyfraith leol (os yn berthnasol) neu hawliau statudol eraill na ellir eu heithrio, nac ychwaith mewn unrhyw fodd yn eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd AHDB i chi am ei dwyll, neu farwolaeth neu anaf personol yn sgil ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr neu'n hasiantau.
 
Nid yw AHDB yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â safleoedd trydydd parti y gellir eu cyrchu drwy wefan www.thisisdairyfarming.com,  ac nid yw'n cefnogi, yn cymeradwyo nac yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan o'r fath.
 
Hawlfraint AHDB yw'r testun a'r graffeg a'r wybodaeth ar wefan www.thisisdairyfarming.com oni nodir yn eglur i'r gwrthwyneb.

Rhoddir caniatâd i lawrlwytho ac argraffu copïau caled o rannau o’r wefan www.thisisdairyfarming.com at ddefnydd personol, anfasnachol.

Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o’r deunydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, atgynhyrchu neu ymgorffori’r cyfan neu unrhyw ran ohono, mewn unrhyw waith neu gyhoeddiad arall, p’un ai ar bapur neu’n electronig neu ar unrhyw ffurf arall, oni bai bod caniatâd ysgrifenedig wedi’i sicrhau ymlaen llaw drwy gysylltu ag AHDB neu adran DairyCo ohono.

Gellir gofyn am ganiatâd o’r fath drwy gysylltu â [email protected] neu [email protected].
 
Bydd unrhyw gyfeiriad at AHDB yn y Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i adran DairyCo o AHDB fel bo’n briodol.
 
Mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n codi yn sgil defnyddio gwefan AHDB, gan gynnwys y gwefannau a weithredir gan adrannau o AHDB, mae’r defnyddiwr ac AHDB yn cytuno i ymostwng yn llwyr i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.