Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Ymweliad fferm Kate

Ymweliad fferm Kate

Roedd Kate Collins yn ddigon ffodus i ennill ein cystadleuaeth Discover Dairy a chafodd wobr arbennig, sef cipolwg tu ôl i’r llenni ac arhosiad dros nos ar fferm laeth leol.  Yma mae’n rhannu profiad ei theulu ar y fferm laeth

"Gwyliau byr gwahanol"

Enillodd Kate Collins, ei phartner Tom a’u mab 2½ mlwydd oed, Elliott, y cyfle i grwydro heibio gatiau fferm Alltyfyrddin, Caerfyrddin yn ein cystadleuaeth #DiscoverDairy. Yma, mae’n rhannu’r profiad a gawsant.

"Wrth inni basio sied y gwartheg, hyd yn oed cyn inni gyrraedd y Gwely a Brecwast, gwelsom lu o anifeiliaid, fel geifr ar y bryniau cyfagos, ieir yn yr iard, ac wrth gwrs, cŵn y fferm.  Cawsom ein cyfarch gan wraig y fferm, sef Sharon Richards, a fu’n ddigon caredig i roi pot o de inni yn lolfa drawiadol y ffermdy.

Tywysodd Sharon ni o amgylch y fferm ar daith a barodd am 1½ awr.  Roedd yn brofiad cyfareddol!  Cawsom olygfa wych o’r gweithgarwch o’r oriel wylio.  Gwelsom y ffermwr yn paratoi’r buchod ar gyfer eu godro a’r peiriant godro.  Dysgon ni sut mae cyflenwad llaeth y fuwch yn cael ei wirio a’r llaeth yn cael ei brofi.  Roedd Elliott wrth ei fodd gyda’r buchod!

Roedd yn syndod dysgu bod pob buwch ar y fferm yn cynhyrchu 35 litr o laeth y dydd ar gyfartaledd.  Ar hyn o bryd mae ‘na 88 o fuchod ar y fferm, felly mae hynny’n gryn dipyn o laeth!  Dysgais hefyd bod lefel y llaeth a gynhyrchir yn cael ei wirio bob mis, a gall ffermydd odro’u buchod hyd at dair gwaith y dydd.

Roedd gweld cŵn defaid Cymreig yn helpu i gasglu’r buchod yn dipyn o syndod!  Hefyd, mae gan bob un o’r buchod ei hardal gysgu’i hun – sy’n beth da, oherwydd mi ddysgon ni bod buchod yn hoffi gorwedd am hyd at 14 awr y dydd.

Mi fuaswn i’n bendant yn ymweld â fferm eto oherwydd cafodd y tri ohonom amser gwych.  Mi fydden ni wedi hoffi aros yn hirach o lawer!  Roedd ‘na gymaint yn fwy i’w weld a llawer o deithiau cerdded ar gael.

Mae aros ar fferm laeth yn wyliau byr ychydig yn wahanol:  mi gewch chi’r croeso fyddech chi’n ei ddisgwyl mewn unrhyw Wely a Brecwast – ond gydag anifeiliaid hefyd!  Os gewch chi gyfle i ymweld â fferm weithiol go iawn, dwi’n ei argymell”

Llongyfarchiadau eto, Kate! Roedd yn gyfle gwych i weld a dysgu am ffermio llaeth gyda’ch llygad eich hun. Ry’n ni’n falch ichi fwynhau’r wobr.