Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu

Ffermio Llaeth a’r Amgylchedd

Yn draddodiadol mae ffermydd llaeth wedi chwarae rhan bwysig yn ardaloeddd gwledig Prydain, gyda ffermwyr yn ymfalchïo yn eu gofal mawr o’r amgylchedd.

Yn draddodiadol mae ffermydd llaeth wedi chwarae rhan bwysig yn ardaloeddd gwledig Prydain, gyda ffermwyr yn ymfalchïo yn eu gofal mawr o’r amgylchedd. Os chwiliwch chi am logo’r Tractor Coch ar nwyddau mi fyddwch chi’n gwybod eu bod wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

Y Cynllun Mapio Llaeth

Mae’r gwaith a wneir gan ffermwyr llaeth i amddiffyn yr amgylchedd a lleihau allyriadau carbon yn cael ei gofnodi drwy’r Cynllun Mapio Llaeth, sef menter sy’n tracio cynnydd yn y maes hwn ar draws y diwydiant llaeth cyfan.  Mae’r adroddiad diweddaraf (dolen) yn dangos bod y fffigwr calonogol o 61% o ffermwyr yn cymryd rhan mewn rhyw fath o Gynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol (dolen) er enghraifft.

Amddiffyn ein Bywyd Gwyllt

Mae gwrychoedd Prydain, gyda’u cyfoeth o fywyd gwyllt, yn cael eu cynnal gan  ffermwyr. Yn ogystal â darparu ffiniau naturiol rhwng caeau, mae’r gwrychoedd yn cael eu tocio, pan nad yw hi’n dymor nythu, i ddarparu mannau bridio i adar a mathau eraill o fywyd gwyllt.  Mae nifer o ffermwyr llaeth hefyd yn creu ‘coridorau bywyd gwyllt’ trwy adael llain o laswellt ar hyd ymyl caeau, plannu coed a choetiroedd, a chreu pyllau i ddenu bywyd gwyllt.  Mae nifer o ffermwyr yn ymuno â chynlluniau amgylcheddol sy’n eu hannog i gynnal gwrychoedd, glaswelltir, waliau cerrig a nifer o nodweddion eraill sy’n bwysig i’n hardaloedd gwledig.

Lleihau allyriadau



P’un ai ydyn ni’n ceisio arbed trydan, neu’n ailgylchu, mae pob un ohonom yn dod yn fwy ymwybodol o’n hôl troed carbon a phwysigrwydd ei leihau.  Fel gwarcheidwaid cefn gwlad, mae ffermwyr yn cymryd hyn o ddifri.  Derbynnir bod lefelau uchel o nwyon tŷ gwydr yn gallu cyfrannu at gynhesu byd-eang.  Ond beth yw’r ffeithiau am allyriadau o ffermydd llaeth? Dywed Liam Sinclair, Athro Gwyddor Anifeiliaid:  “Cynhyrchir methan yn stumog gyntaf y fuwch a elwir yn rwmen.  Yn hwnnw mae miliynau a biliynau o ficro-organebau sy’n eplesu’r bwyd a fwyteir.  O ganlyniad mae’r fuwch yn cynhyrchu methan ac mae’n cael gwared â hwnnw drwy dorri gwynt.  Mae hwn yn rhan o’r broses dreulio naturiol ac mae’n rhywbeth mae buchod wedi’i esblygu dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd.”  Mae’r nwy hefyd yn bodoli’n naturiol yn yr atmosffer ac yn helpu i reoli tymheredd y ddaear.  Mae ffermwyr llaeth wedi gweithio’n galed i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

O ganlyniad mae allyriadau tŷ gwydr o ffermydd llaeth y Deyrnas Unedig wedi gostwng yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf a heddiw mae’n cynrychioli 2% yn unig o holl allyriadau’r DU.  Mae hyn yn cymharu â thrafnidiaeth yn y DU, er enghraifft, sy’n gyfrifol am 25%.  Mae’r diwydiant llaeth yn gweithio tuag at ostwng y lefelau hyn ymhellach drwy’r Cynllun Mapio Llaeth (dolen), ac mae ffermwyr llaeth yn mynd i’r afael â phryderon am y newid yn yr hinsawdd ar raddfa fyd-eang trwy’r Agenda Llaeth Byd-eang Dros Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Gwneud y mwyaf o’r dom/tail



Mae rheoli dom/tail yn agwedd bwysig o ffermio llaeth.  Ar y rhan fwyaf o ffermydd llaeth Prydain, defnyddir y dom/tail a gynhyrchir fel gwrtaith naturiol ar y tir, sy’n darparu maetholion gwerthfawr ar gyfer cnydau, gan gynnwys glaswellt.  Fel arfer storir y slyri - sef dom/tail wedi’i gymysgu â dŵr - mewn  tanc slyri neu lagŵn am mai dim ond ar adegau arbennig o’r flwyddyn y gellir ei wasgaru.  Mae rhai ffermwyr llaeth - yn enwedig y rhai sydd â ffermydd mwy o faint - yn defnyddio treulwyr anaerobig i droi dom/tail y buchod yn ynni.  Mae’r treuliwr yn achosi i’r dom/tail ddadelfennu, gan gynhyrchu bio-nwy sy’n bwydo generadur, sydd yn ei dro’n cynhyrchu trydan y gellir ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol.

 

Gwyliwch eich fideo am ffermio llaeth a’r amgylchedd.