Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
IECHYD A LLES BUCHOD

IECHYD A LLES BUCHOD

Mae buchod iach a hapus yn flaenoriaeth i bob ffermwr llaeth cyfrifol, ond beth mae hynny’n ei olygu’n union i’r miliwn o fuchod godro maen nhw’n gofalu amdanynt? Dyma’ch cyfle chi i ddysgu mwy am les buchod llaeth.

Ble maen nhw’n cysgu

Mae’r rhan fwyaf o fuchod llaeth Prydain yn pori yn yr awyr agored yn ystod yr haf ac yn byw dan do dros y gaeaf. Mae’r  adeiladau yn fawr ac  wedi’u hawyru’n dda - mae ffermwyr llaeth yn gwybod bod buchod yn hoffi symud o gwmpas a chymdeithasu â buchod eraill yn y fuches, felly maen nhw’n gwneud yn siŵr bod ‘na ddigon o le i ymarfer yn ogystal â gorffwys.



Beth maen nhw’n ei fwyta?

Mae darparu buchod â bwyd maethlon mor  bwysig fel bod ganddyn nhw eu maethegwyr eu hunain.  Mae buchod angen deiet iach a chytbwys i gynhyrchu llaeth, felly mae ffermwyr llaeth yn gweithio gyda maethegwyr anifeiliaid arbenigol i greu cynlluniau deiet ar eu cyfer.  Mae’r rhan fwyaf o fuchod yn bwyta glaswellt yn yr haf a silwair (glaswellt neu india-corn cadw), grawnfwyd, bwydydd protein, fitaminau a mwynau yn y gaeaf.  Nid yw’r borfa’n tyfu yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y tywydd oer ac mae’n well gan y rhan fwyaf o fuchod, fel ninnau, fod dan do yn cael digon i’w fwyta.

Cadw’n iach

Fel y maethegwyr, mae milfeddygon yn aelodau gwerthfawr o dîm fferm laeth.  Maent yn galw heibio’n aml i wneud yn siŵr bod y buchod yn iach, ac yn gweithio gyda’r ffermwr i greu cynllun iechyd ar gyfer y fuches.  Gwyliwch ein fideo  milfeddyg fferm i ddysgu mwy am gynlluniau iechyd y fuches.



Safonau lles buchod

Mi fyddwch wedi gweld logo’r Tractor Coch  ar laeth a chynnyrch llaeth arall yn eich archfarchnad leol efallai.  Mae’r logo’n golygu bod y llaeth wedi’i gynhyrchu’n unol â Chynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth y Tractor Coch.  Mae’r

cynllun, a ddatblygwyd gan ffermwyr llaeth, proseswyr, Undeb Cenedlaethol Yr AmaethwyrChymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain, yn gosod safonau uwch ar gyfer ansawdd a lles nag unrhyw wlad arall sy’n cynhyrchu llaeth ar raddfa eang.  Caiff ei fonitro gan archwilwyr annibynnol a gosodir safonau arbennig sy’n sicrhau bod gan fuchod bob amser fwyd maethlon a dŵr ffres, siediau mawr cyfforddus, digon o borfa a’r gofal milfeddygol gorau posib.  Mae mwyafrif helaeth ffermwyr llaeth Prydain yn rhan o’r cynllun ac mae’r rhan fwyaf o’r proseswyr sy’n prynu llaeth gan y ffermwyr yn mynnu arno, felly gallwch ‘Ymddiried yn y Tractor’ pan fyddwch chi’n siopa.

Gwyliwch ein fideo  Cow Whisperer i ddysgu pa arwyddion mae ffermwyr yn chwilio amdanynt yn eu buchod i wneud yn siŵr eu bod yn hapus ac iach.