
Yr Ardal Magu Lloi
Mae angen gofal arbenigol ar loi ac mae eu magu mewn amgylchedd diogel yn sicrhau eu bod yn cael y sylw maent ei angen o’u genedigaeth.
Y nhw yw babis y fferm a gallant swyno pawb gyda’u natur chwilfrydig a chwareus. Bydd y lloi’n chwarae rhan bwysig yn nyfodol y fuches ac mae tîm y fferm yn cymryd y gwaith o ofalu amdanynt o ddifrif.
Gofalu am loi
Mae llawer o ffermwyr llaeth yn magu’u lloi mewn ardal arbennig ar y fferm, lle maent yn derbyn gofal ychwanegol pwrpasol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y cyflwr gorau o fewn amgylchedd diogel. “Mae hynny’n caniatáu i’r ffermwr i roi’r gofal a’r sylw sydd ei angen, a gall y lloi chwarae gyda’u ffrindiau mewn amgylchedd diogel.” meddai Matt Dobbs, milfeddyg arbenigol ffermydd llaeth.
Colostrwm
Yn ystod y 24 awr cyntaf ar ôl eu geni, mae lloi’n cael eu bwydo â cholostrwm, sef y llaeth maethlon, pwysig sy’n dod o’u mamau. Dywed Matt Dobbs: “Mae oriau cyntaf bywyd y llo yn rhai pwysig iawn. Yn ystod y cyfnod hwn gall y llo sugno’r llaeth cyntaf a gynhyrchir gan y fuwch. Mae colostrwm yn ffynhonnell gyfoethog o egni ac mae hefyd yn cynnwys yr holl wrthgyrff sy’n helpu i amddiffyn y llo rhag heintiau yn ystod dyddiau ac wythnosau cyntaf ei fywyd."
Buchod a Lloi
Mae arbenigwyr yn argymell y dylid gwahanu lloi oddi wrth eu mamau cyn gynted â phosib, i leihau’r straen ar y fuwch a’r llo.
Bwydo Lloi
Mae’r lloi’n parhau i gael llaeth am nifer o wythnosau ar ôl eu geni. Yn ystod y cyfnod hwnnw maent yn cael eu cyflwyno’n raddol i fwydydd eraill, gyda maethegwyr a milfeddygon yn helpu’r ffermwr i ddatblygu cynllun deiet sy’n addas i oed a maint y llo. Ar ôl eu diddyfnu, mae lloi benywaidd fel arfer yn cael eu magu i ymuno â’r fuches laeth.
Lloi gwryw
Mae natur yn golygu bod tua hanner y lloi a enir yn wrywaidd – gelwir y rhain yn loi gwryw.
Wrth reswm, nid yw lloi gwryw’n cael eu magu i ymuno â’r fuches laeth, felly cânt un ai eu magu ar gyfer cig eidion neu gig llo. Mae ffigurau’n awgrymu bod dros dri chwarter lloi gwryw ffermydd llaeth yn cael eu magu ar gyfer cig eidion yn y Deyrnas Unedig. Pan na fydd unrhyw opsiwn ymarferol arall ar gael, yn anffodus, mae lloi gwryw’n cael eu difa.