
Y Stordy Bwyd
Mae’r stordy bwyd yn lle sych a thaclus lle mae’r porthiant yn aros yn ffres cyn cael ei gymysgu a’i fwydo i’r buchod.
Dychmygwch gwpwrdd bwyd Delia, a bydd gan y rhan fwyaf ohonoch chi ddarlun o le taclus sy’n llawn i’r ymylon o gynhwysion ffres. Mae’r un peth yn wir am ffermwyr llaeth, sy’n cadw’u porthiant mewn lle sych, taclus i’w gadw’n ffres nes ei fod yn cael ei gymysgu a’i fwydo i’r buchod.
Mae’r rhan fwyaf o fuchod llaeth yn bwyta glaswellt dros yr haf a silwair (glaswellt neu india-corn cadw) yn y gaeaf. Fel arfer ychwanegir grawnfwyd a bwydydd protein sydd â fitaminau a mwynau ychwanegol ato, a chedwir y rheiny mewn stordai neu finiau bwyd i’w cadw’n ffres
Mae pob buwch laeth yn bwyta rhwng 25 a 50kg o fwyd y dydd ac mae hi angen cyflenwad cyson a rheolaidd o ddŵr ffres i’w yfed. Mae deiet iach a chytbwys yn hanfodol i gynhyrchu llaeth, felly mae ffermwyr llaeth yn gweithio gyda maethegwyr anifeiliaid i greu cynlluniau deiet arbennig ar gyfer eu buchod. Dywed y maethegwr buchod Tim Davies: "Mae’n bwysig cael yr elfen yma’n iawn er mwyn cael buchod iach a chynhyrchiol."
Mae maethegwyr buchod yn ystyried oed a phwysau’r fuwch yn ogystal â faint o laeth mae’n debygol o’i gynhyrchu, er mwyn cynllunio prydau maethlon a chytbwys. Mae hynny fel arfer yn golygu ychwanegu protein, fitaminau a mwynau i wneud iawn am unrhyw ddiffygion yn y glaswellt neu’r silwair mae’n ei fwyta.
Mae maethegwyr hefyd yn ystyried pa ddefnydd a wneir o laeth y fuwch. Er enghraifft, gall buwch sy’n cynhyrchu llaeth i’w yfed fod ar ddeiet ychydig yn wahanol i un sy’n cynhyrchu llaeth i wneud caws.
Eisiau gwybod mwwwwy? Gwyliwch ein fideo Y maethegwr buchod.