
Y Lagwn Slyri
Storir slyri mewn lagŵn neu danc nes ei fod yn barod i’w wasgaru ar y tir fel gwrtaith ar gyfer planhigion.
Gall dom/tail buchod fod yn adnodd gwych i ffermwyr – mae’n wrtaith naturiol a maethlon sy’n helpu glaswellt a chnydau eraill i ffynnu. Mae rhai’n pentyrru’r dom/tail cyn ei wasgaru ar y tir ac mae eraill yn creu ‘slyri’ drwy gymysgu’r dom/tail â dŵr.
Storir y Slyri mewn lagŵn neu danc nes ei fod yn barod i’w wasgaru ar y tir fel gwrtaith ar gyfer planhigion.
Mae rhai ffermwyr llaeth yn chwalu’r slyri ar y tir; mae eraill yn ei chwistrellu’n uniongyrchol i’r pridd. Dywed Liam Sinclair, Athro Gwyddor Anifeiliaid: “Mae ‘na nifer o ffyrdd clyfar o roi slyri ar y tir. Mae rhai ffermwyr yn defnyddio’r hyn a elwir yn ‘farrau diferu’ i ddiferu’r slyri dros y tir; mae eraill yn chwistrellu’r dom/tail ychydig dan yr wyneb. Mae hyn yn golygu llai o oglau drwg, ac mae hefyd yn golygu bod nitrogen yn mynd yn uniongyrchol i ble mae’r planhigyn ei angen, all helpu’r cnwd i dyfu.”
Dysgwch am y ffyrdd gwahanol sydd gan ffermwyr o ddefnyddio dom/tail