
Tractorau
Mae tractorau’n hanfodol ar ffermydd ac mae’n syndod faint o dasgau maent yn eu cyflawni a faint o ddyfeisiau y gellir eu defnyddio arnynt.
Mae tractorau’n rhan mor annatod o ffermio â byrnau gwair yn y caeau – ac mae’n hawdd gweld pam. I’r rhan fwyaf o ffermwyr, maen nhw’n gwbl hanfodol ac yn eu helpu i berfformio llu o dasgau amrywiol.
Er enghraifft, y tractor sy’n tynnu’r wagen cymysgu porthiant, sy’n cymysgu, pwyso a dosbarthu porthiant y buchod. Dyma un o’r dulliau a ddefnyddir gan ffermwyr llaeth i fwydo’r meintiau iawn i’w buchod, ar yr adeg iawn. Mae ffermio cyfoes yn defnyddio’r peiriannau a’r dechnoleg ddiweddaraf.