
Gwrychoedd
Mae gwrychoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran amddiffyn buchesi sydd allan yn pori rhag y gwynt a’r glaw, ac maent yn fannau bridio ardderchog i adar a bywyd gwyllt.
Mae’n rhywbeth na fyddai’n croesi’ch meddwl mae’n siŵr wrth fynd am dro yn y wlad, ond mae rhai o’r gwrychoedd ym Mhrydain yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd - felly mi allwch chi ddeall pam fod ffermwyr mor awyddus i ofalu amdanyn nhw a chadw tirwedd Prydain yn edrych ar ei gorau.
Mae gwrychoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran amddiffyn buchesi sydd allan yn pori rhag y gwynt a’r glaw, ac maent yn fannau bridio ardderchog i adar a bywyd gwyllt. I helpu’r bywyd gwyllt i ffynnu, mae nifer o ffermwyr llaeth yn tocio’u gwrychoedd yn rheolaidd, pan nad yw hi’n dymor nythu.
Mae nifer o ffermydd llaeth hefyd yn creu ‘coridorau bywyd gwyllt’ trwy adael llain o laswellt o amgylch y caeau, yn ogystal â phlannu coed a choetiroedd a chreu pyllau i ddenu bywyd gwyllt. I ddysgu mwy am sut mae ffermwyr llaeth yn gofalu am fywyd gwyllt a’r amgylchedd cofiwch wylio’n fideo arbenigwr ar yr amgylchedd.