
Oli Partridge
Mae’r brodyr Oli ac Ed Partridge yn rhedeg fferm deuluol Caldicott Farm gyda’i gilydd.
Dechreuodd y cyfan yn Sir Gâr ar ôl y rhyfel. Prynodd fy mam-gu a thad-cu 60 o fuchod godro yn 1950, gan sefydlu buches Dyrfal. Yn 1960 symudon nhw’r fuches i fferm Caldicott yn Ne Swydd Henffordd ac mae ffermio llaeth wedi bod yn y teulu byth ers hynny. Cymerodd fy nhad yr awenau oddi wrth ei rieni, a nawr mae fy mrawd Ed a minnau’n rhedeg y busnes teuluol.
Ond mae llawer wedi digwydd mewn 60 mlynedd. Heddiw, ry’n ni’n gweithio ar draws dau safle - fferm wreiddiol fy mam-gu a thad-cu, lle rydym yn magu’n lloi a’n buchod ifanc - a’r fferm ‘fawr’ yn Lower Buckholt ger Mynwy lle buom wrthi’n godro buchod ers dros ddwy flynedd bellach. Mae’r fuches wedi cynyddu i 270 o fuchod godro ac rydym yn bwriadu ehangu i 500 yn y dyfodol.
Y buchod sy’n dod gyntaf bob tro. Mae’n syml iawn; os ofalwn ni am y buchod, mi fyddan nhw’n gofalu amdanon ni, felly ry’n ni wedi buddsoddi yn y dechnoleg orau, o barlwr godro newydd i faddonau traed a chorau newydd yn y sgubor. Mae’r milfeddyg yn galw bob pythefnos, ac mae maethegydd yn dod atom unwaith y mis Ry’n ni hefyd yn archwilio a thrin traed ein buchod yn rheolaidd, i sicrhau eu bod mor iach â phosib.
Mae’n wych sut all technoleg ein helpu i ofalu am ein buchod a rhedeg ein busnes yn well. Ar hyn o bryd ry’n ni’n edrych ar ffordd o redeg ein cadwyn gyflenwi gyfan gan ddefnyddio ffôn clyfar!
Mae fy mrawd a minnau hefyd yn awyddus iawn i rannu’n profiadau gyda’r gymuned leol. Ry’n ni wrth ein boddau’n cymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Sul y Fferm Agored a noddir gan DairyCo. Mae’n gyfle gwych i fynd â phobl tu ôl i’r llenni mewn fferm laeth, a dangos iddyn nhw beth mae cynhyrchu llaeth o ansawdd gwych trwy’r flwyddyn gyfan yn ei olygu.
Mi fydda i bob amser yn rhyfeddu at harddwch fy ‘swyddfa awyr agored’ i. Mae’r Mynydd Du ar y naill ochr i’r fferm, gyda choedwigoedd trwchus ar hyd ei ymyl, a’r afon Mynwy ar y llall, sy’n byrlymu o fywyd gwyllt trwy’r flwyddyn gyfan. Does dim yn well na gwylio’r buchod yn cyrraedd y caeau yn y gwanwyn, ac yn mwynhau’r borfa newydd. Bob diwrnod dwi’n diolch fy mod yn ddigon ffodus i gael gweithio’n agos gyda fy nheulu, allan yn yr awyr iach, gyda’r buchod ry’n ni wedi gofalu amdanynt ers iddyn nhw gymryd eu camau cyntaf.