Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu

Dolenni Defnyddiol

Are you interested in working in dairy farming? Have a look at the following links for more information.

Os hoffech chi gael gyrfa mewn diwydiant deinamig, diddorol a hanfodol fel ein un ni, dyma rai dolenni all roi mwy o wybodaeth i chi: 

BRIGHT CROP – bwriad y wefan ddefnyddiol hon, a lansiwyd yn ddiweddar, yw helpu pobl ifanc i ddysgu am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector amaethyddol.

LANTRA – yw Cyngor Sgiliau Sector y Deyrnas Unedig ar gyfer diwydiannau’r tir a’r amgylchedd, a bydd y wefan hon yn eich darparu â llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar yrfaoedd gwahanol, a pha gymwysterau sydd eu hangen.

FARMERS WEEKLY-  AR-LEIN – mae’n cynnwys awgrymiadau defnyddiol, cynghorion, beth ddylech, ac na ddylech ei wneud wrth ymgeisio am swydd yn y diwydiant, yn ogystal â rhestr o’r swyddi sydd ar gael.

UCAS – mae’n dweud wrthoch chi pa brifysgolion sy’n rhedeg cyrsiau mewn amaethyddiaeth a ffermio llaeth.

Dolenni eraill defnyddiol:

Mae www.nationalcareersservice.direct.gov.uk/ yn cynnig mwy o wybodaeth am y farchnad swyddi llaeth ac mae ffermwyr yn aml yn hysbysebu swyddi gwag ar safleoedd recriwtio poblogaidd fel www.fish4jobs.co.uk  neu www.reed.co.uk. Mae rhai cyhoeddiadau masnachol yn cynnwys swyddi gwag yn eu cylchgronau, neu ar eu gwefan, fel y Farmers Weekly a’r Farmers Guardian

Mae ‘Project Eden’ yn rhaglen hyfforddi ar gyfer y diwydiant llaeth sy’n cynnig cymhwyster lefel gradd sylfaenol ar gyfer personél y diwydiant prosesu a chynhyrchu llaeth.  I gael mwy o fanylion, ewch i wefan yr Academi Sgiliau Genedlaethol a gwefan Dairy UK 

Mae’r fenter ‘Fresh Start’ yn hyrwyddo’r sgiliau busnes ac entrepreneuraidd sydd eu hangen i ddechrau busnesau fferm newydd, a’u datblygu yn y dyfodol.  I gael mwy o wybodaeth am y fenter, ewch i www.nfuonline.com

Ym mis Medi bydd FEEDING BRITAIN'S FUTURE - Skills for Work Month yn dechrau.  Gyda 15,000 o gyfleoedd hyfforddi am ddim ar gael i bobl ifanc di-waith, mewn dros 1,200 o leoliadau ar draws y DU, mae’n werth cymryd golwg.

Mi allech chi fod yn gweithio gyda phobl fel hyn yn fuan:

"Dwi ddim o gefndir amaethyddol, ond ro’n i jyst yn caru’r syniad o weithio gydag anifeiliaid a bod allan yn yr awyr agored.  Astudiais amaethyddiaeth yn y coleg ac yn fuan iawn cefais waith yn cynorthwyo ar fferm.  Dwi wir yn caru natur amrywiol y swydd – mae gen i ddiddordeb mawr mewn technoleg, felly dyma’r swydd berffaith i mi.”  Jade Foster, Cynorthwyydd Fferm

" Fy ngwaith i yw gwneud yn siŵr bod pob buwch yn  cael deiet cytbwys i’w chadw’n iach a hapus.  Ar ddiwrnod arferol byddaf yn ymweld â ffermydd yn fy ardal, gan weithio gyda’r tîm i addasu ychydig ar y cynlluniau deiet sydd ganddyn nhw neu i gynghori ar borthiant.  Dwi’n hoffi’r her o adolygu’r ddeiet - a’r teimlad braf pan fydd cynllun yn llwyddo!”  Tim Davies, Maethegydd Llaeth

"Y rhan fwyaf diddorol o’r swydd yw dod i nabod y ffermwr go iawn, a’i obeithion ar gyfer pob buwch, yn ogystal â’r fuches gyfan.  Mae ei helpu i gyflawni’r rheiny trwy wneud yn siŵr bod ei anifeiliaid yn iach yn fraint go iawn.”  Matt Dobbs, Milfeddyg Ffermydd Llaeth