
Gweithio ym maes Ffermio Llaeth
Tu ôl i’r carton o hufen, y peint o laeth neu’r dafell o gaws ry’n ni’n ei fwynhau bob dydd, mae ’na tua 50,000 o bobl wrthi’n brysur yn gweithio’n ddiarwybod i ni. Ac nid ffermwyr yw’r rhain i gyd!
Mae ‘na amrywiaeth o swyddi ar gael yn y diwydiant llaeth – o swyddi peirianyddol a thechnolegol i wyddor anifeiliaid, gofal a maeth. Gall y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant llaeth dreulio’u dyddiau’n godro ac yn gofalu am y buchod a’r lloi ar y fferm; yn cynghori ar borthiant neu dechnoleg; neu’n gweithio fel milfeddyg neu arbenigwr ar fridio.
Fel arfer mae Ffermwyr llaeth yn goruchwylio’r gwaith o redeg y fferm o ddydd i ddydd, sy’n golygu gofalu am yr anifeiliaid, godro, paratoi porthiant a sicrhau bod y peiriannau a’r offer yn gweithio’n iawn. Ac mae ‘na gyfleoedd gwaith ar gael – yn ôl ymchwil diweddar gan Lantra, Cyngor Sgiliau Sector diwydiannau’r tir a’r amgylchedd, mae angen denu dros 242,000 o newydd-ddyfodiaid i yrfaoedd yn y diwydiant tir dros y ddegawd nesaf.
Gyda iechyd a lles y fuwch yn flaenoriaeth i ffermwyr llaeth, mae milfeddygon yn rhan bwysig o dîm estynedig y fferm, ac mae rhai milfeddygon hyd yn oed yn arbenigo mewn gwartheg llaeth. Byddant yn ymweld â’r fferm i gynnal archwiliadau rheolaidd, helpu i eni llo, neu i weithio gyda’r ffermwr i ddatblygu cynllun iechyd ar gyfer y fuches.
Mae ymgynghorwyr amaethyddol yn gweithio gyda ffermwyr i ddarparu cyngor a chymorth i ddatblygu’r fferm. Gall ymgynghorwyr gynghori ffermwyr mewn nifer o feysydd, gan gynnwys - maeth, yr amgylchedd, bridio a rheoli gwastraff. Gallant hefyd gynghori ar faterion busnes, gan gynnwys cynllunio neu reoli cyllid.
Mae peirianneg yn elfen arall bwysig o’r diwydiant llaeth. Mae peirianwyr fferm yn cynllunio, cynhyrchu a chynnal a chadw’r offer soffistigedig a ddefnyddir gan ffermwyr llaeth. Gyda thechnoleg sy’n cynnwys parlyrau godro robotig a systemau cyfrifiadurol uwch-dechnolegol, gall hwn fod yn arbenigedd hanfodol.
Oherwydd natur amrywiol y swyddi, mae gwaith tîm yn hynod o bwysig ar fferm laeth. Mae tîm y fferm am weld buchod hapus ac iach; am ddarparu cynnyrch llaeth o’r safon uchaf; am sicrhau bod y fferm mewn cyflwr da; ac am redeg busnes effeithlon a chynaliadwy sy’n defnyddio technoleg addas. Mae’n dasg heriol – ond yn un sy’n hanfodol er mwyn dod â’r cynnyrch llaeth hynod boblogaidd hwnnw o’r borfa i’r bwrdd.