
Chris Webb
Dechreuodd y cyfan pedair blynedd yn ôl pan gynigiais i helpu ffrind ar ei fferm laeth am y prynhawn…
Mae fy nghefndir i yn y sector technoleg uwch lle dwi’n awdur meddalwedd ac yn gyfarwyddwr technegol - nid deunydd ffermwr naturiol felly! Heb unrhyw fath o gefndir teuluol amaethyddol, ar y diwrnod cyntaf hwnnw doeddwn i’n gwybod fawr ddim am fuchod, ond er imi gael fy nhaflu mewn i’r pen dwfn, ro’n i’n synnu gymaint ro’n i’n caru gweithio gyda nhw, a faint o bleser ro’n i’n cael o’r gwaith yn gyffredinol.
Roedd pob carreg filltir yn foment falch, o feistroli tasgau syml fel rhoi gwellt dan y buchod gyda’r tractor neu lenwi’r wagen fwydo, i dasgau mawr fel lloia buwch neu odro ar fy mhen fy hun. Wrth i amser fynd yn ei flaen, dechreuais fynychu sgyrsiau lleol, digwyddiadau a chyrsiau, cefais hyfforddiant mewn tocio traed a bridio, a’r llynedd cefais y cyfle cyffrous i gymryd rhan yn Academi Laeth gyntaf ‘Fresh Start’ oedd yn anelu at fentora newydd-ddyfodiaid fel fi.
Mae’r newid cyfeiriad hwn wedi bod yn destun difyrrwch a syndod i fy ffrindiau o’r tu allan i’r diwydiant llaeth, ond fel newydd-ddyfodiad rwyf wedi fy siomi o’r ochr orau gyda’r holl gefnogaeth ac anogaeth a gefais gan ffrindiau ac eraill o fewn y diwydiant.
Mae angen sgiliau arbennig i wneud y gwaith ac mae gen i lawer i’w ddysgu o hyd, ond dwi wir yn mwynhau gweithio i fagu’r profiad hwnnw. Wrth imi wneud hynny, dwi’n dod yn fwy a mwy awyddus i greu dyfodol i mi fy hun yn y byd amaeth a chael godro fy muches fy hun rhyw ddydd.
Godro sydd orau gen i. Mae’n dasg gyfarwydd, reolaidd sydd wrth graidd pob fferm laeth, ac mae hefyd yn gyfle i dreulio amser gyda’r buchod ddwywaith y dydd. Mae ffermwyr a stocmyn yn anorfod yn dod i nabod eu hanifeiliaid yn dda. Trwy fod yn ymwybodol o gymeriad pob anifail ac ymddygiad arferol y buchod, mae eu gwylio’n gyfle gwych i weld pa fuchod sy’n gofyn tarw, gwneud yn siŵr eu bod yn fuchod iach a hapus, a sylwi ar unrhyw broblemau’n gynnar.
Er ei fod yn hir, rywsut dydy’r diwrnod gwaith byth yn cynnwys digon o oriau. Ar ôl godro, mae’r bore’n hedfan yn sgil prysurdeb golchi’r parlwr, sgrafellu, bwydo a rhoi gwasarn dan y buchod, glanhau’r tanc llaeth, a bagio bwyd y lloi. Wrth iddi nesáu at wyth o’r gloch, ry’n ni’n gorffen golchi’r parlwr, yn glanhau ein sgidiau ac yn mynd am baned.