
Ydy llaeth o epil buchod sydd wedi’u clonio’n saff i’w yfed?
O ran diogelwch bwyd, mae’r dystiolaeth wyddonol yn bendant: Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Nhachwedd 2010 “mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd wedi cadarnhau nad yw cig a llaeth o wartheg sydd wedi’u clonio a’u hepil yn sylweddol wahanol i gig a llaeth a gynhyrchir mewn dull confensiynol, ac felly mae’n annhebygol o fod yn risg o ran diogelwch bwyd.”
Mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yn cadarnhau nad oes “dim i ddangos bod yna wahaniaeth o ran diogelwch bwyd rhwng cig a llaeth anifeiliaid sydd wedi’u clonio a’u hepil o’i gymharu ag anifeiliaid sydd wedi’u magu yn y ffordd gonfensiynol.” Hefyd, yn ôl Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau, does dim perygl i iechyd y cyhoedd o fwydydd llaeth a gynhyrchwyd o laeth anifeiliaid sydd wedi’u clonio a’u hepil.