
Ydy hi’n wir bod rhai buchod byth yn mynd tu allan?
Ar y mwyafrif helaeth o ffermydd llaeth Prydain, mae’r buchod yn pori allan yn yr awyr agored yn ystod yr haf ac yn aros dan do dros y gaeaf. Mae rhai buchod llaeth yn aros dan do trwy’r flwyddyn.
Pa bynnag system a ddefnyddir, er mwyn cydymffurfio â’r cynllun sicrwydd Ffermydd Llaeth Gwarantedig, rhaid i bob ffermwr llaeth sicrhau fod ei adeiladau a’i systemau rheoli’n caniatáu i’r buchod fwynhau ‘Pum Rhyddid’ y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm sy’n sicrhau lles yr anifail.
Gwyliwch ein fideo ar letya buchod trwy’r flwyddyn.