
Ydy cloffni ymhlith buchod ar gynnydd yn y DU?
Nac ydi. O ganlyniad i fesurau a gyflwynwyd gan ffermwyr llaeth Prydain, mae data’n awgrymu bod yr achosion o gloffni ymhlith gwartheg wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r arferion a gyflwynwyd yn cynnwys adnewyddu ac uwchraddio traciau ac arwynebau y mae buchod yn sefyll a cherdded arnynt, a disodli ciwbiclau bach, sydd wedi dyddio â chorau mwy o faint neu iardiau. Mae ffermwyr llaeth hefyd yn canolbwyntio ar ofal ataliol, er enghraifft, mwy o ddefnydd o offer tocio traed, baddonau traed, a gwasanaethau’r milfeddyg. Dysgwch fwy am siediau gwartheg ym Mhrydain.