
Y defnydd o ddŵr ar ein ffermydd llaeth
Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer ffermio llaeth. Mae buchod llaeth angen cyflenwad rheolaidd o ddŵr yfed glân, a defnyddir dŵr hefyd i olchi’r parlwr godro a’r offer ar ôl godro.
Mae ffermwyr llaeth yn cymryd eu hymrwymiad i’r amgylchedd o ddifri ac maent wrthi’n edrych ar ffyrdd o gynilo dŵr a lleihau costau heb beryglu lles eu hanifeiliaid na glendid eu busnes llaeth. Er enghraifft, mae’r Cynllun Mapio Llaeth wedi gosod targed o sicrhau bod 70% yn mabwysiadu mesurau defnydd effeithlon o ddŵr erbyn 2015.
Gwyliwch ein ffilm am y ffordd mae ffermwyr llaeth yn gofalu am yr amgylchedd.