
Sut mae methan yn cael ei gynhyrchu?
Dywed Liam Sinclair, Athro Gwyddor Anifeiliaid: "Cynhyrchir y methan yn stumog gyntaf y fuwch, a elwir yn rwmen. Yno mae miliynau o ficro-organebau yn eplesu’r bwyd sy’n cyrraedd y stumog. O ganlyniad, mae’r fuwch yn cynhyrchu methan mae’n ei ollwng drwy dorri gwynt. Mae hyn yn rhan o’r broses dreulio naturiol ac mae’n rhywbeth mae buchod wedi’i esblygu dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd."
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffermydd llaeth yn cynrychioli 2% yn unig o holl allyriadau’r DU.
Ewch i’n hadran ar yr amgylchedd i gael gwybod mwy.