
Sut mae llaeth yn cael ei gasglu o’r fferm?
Mae tancer llaeth arbennig yn galw yn y fferm bob dydd neu bob yn ail ddydd i gasglu’r llaeth. Mae’r gyrrwr yn gwirio tymheredd y llaeth cyn ei drosglwyddo i’w gerbyd. Mae’r gyrrwr hefyd yn casglu samplau i brofi ansawdd y llaeth cyn ei gludo i’r llaethdy i’w brosesu.