
Pam fod lloi’n cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau ar oed mor ifanc?
Mae arbenigwyr yn argymell bod lloi’n treulio’u diwrnod cyntaf yn bwydo o’u mamau i wneud yn siŵr eu bod yn cael colostrwm, sy’n cynnwys lefel uchel o faetholion a gwrthgyrff, fydd yn eu helpu i dyfu a datblygu’u systemau imiwnedd. Yna gofalir am y lloi mewn ardaloedd magu pwrpasol.
Yno, ochr yn ochr â lloi eraill o tua’r un oed, maent yn cael gofal arbenigol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y cyflwr gorau posib mewn amgylchedd diogel. Mae’r Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm yn cydnabod y dylid diddyfnu’r lloi’n gynnar er mwyn rhoi’r straen lleiaf ar y buchod.
Gwyliwch ein fideo am loi newydd-anedig i ddysgu mwy.