
Pa un yw’r brid buchod godro fwyaf cyffredin ym Mhrydain?
Os ofynnwch chi i unrhyw un bron i dynnu llun o fuwch odro mi fyddan nhw’n siŵr o’i lliwio hi’n ddu a gwyn.
Y brid Holstein-Friesian - sy’n ddu a gwyn – yw’r un mwyaf cyffredin ac mae’n cynrychioli 90% o fuchesi Prydain. Ceir rhai bridiau eraill hefyd, gan gynnwys gwartheg Ayrshire, Jersey a Guernsey.
Dywed yr arbenigwr ar fridio, Marco Winters: “Mae gennym nifer o systemau gwahanol yn y wlad hon ac mae angen bridiau sy’n siwtio’r systemau hynny. Gall yr anifail a welwn ni yn Yr Alban fod yn wahanol iawn i’r un a welir yng Nghernyw, er enghraifft.”
Gwyliwch ein fideo ar fridio i ddysgu mwy.