
Pa mor aml mae buchod yn cael eu godro?
Mae’r parlwr godro’n lle anhygoel sy’n llawn dyfeisiau modern ac offer sgleiniog. Os cewch chi byth gyfle i weld un ar waith mi fydd yn siŵr o greu cryn argraff arnoch chi.
Mae amledd y godro’n amrywio o fferm i fferm ac mae’n dibynnu ar y math o barlwr a ddefnyddir, y cyfnod llaetha, a faint o laeth a gynhyrchir. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn godro’u buchod ddwywaith y dydd, ond gyda system odro robotig mae’r buchod weithiau’n dewis cael eu godro pedwar neu bump o weithiau’r dydd. Dydy hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu eu bod yn cynhyrchu mwy o laeth, na’u bod yn anghyfforddus iddyn nhw – mi fyddai lloi’n bwydo’n naturiol bob pedair i chwe awr.