
Oes ’na grawn mewn llaeth?
Weithiau honnir bod llaeth yn cynnwys grawn, ond dydy hynny ddim yn wir.
Ym Mai 2008, dywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu fod “cyfeirio at y celloedd gwaed gwyn naturiol sydd mewn llaeth fel ‘crawn’ yn gamarweiniol.” Mae pob math o laeth – gan gynnwys llaeth dynol o’r fron – yn cynnwys rhai celloedd somatig (gwyn), sy’n hanfodol ar gyfer ymladd heintiau a chadw’n iach.
Mae’r diwydiant llaeth yn monitro’r celloedd somatig i wneud yn siŵr bod y lefelau’n aros yn gyson, a’u bod o fewn terfynau’r Undeb Ewropeaidd o bell ffordd. Yn y DU, mae’r cyfrif celloedd somatig cyfartalog oddeutu hanner yr hyn a ganiateir o fewn yr Undeb Ewropeaidd.