
Mae tail/dom yn gollwng sylffid hydrogen – ydy hwn yn beryglus i bobl?
Mae dom/tail gwartheg yn adnodd gwerthfawr i nifer o ffermwyr, sy’n ei ddefnyddio i’w helpu i dyfu cnydau ar eu tir. Ar rai ffermydd, cymysgir y dom/tail â dŵr i greu slyri, a gedwir mewn tanc fel arfer, cyn ei wasgaru ar adegau arbennig o’r flwyddyn.
Mae hydrogen sylffid yn nwy sy’n cael ei ryddhau o’r dom/tail a’r slyri, ond unwaith mae’n cymysgu â’r aer nid yw’n beryglus i iechyd bodau dynol. Mae ffermwyr llaeth Prydain yn lleihau’r perygl hwn drwy fabwysiadu arfer gorau wrth reoli slyri.