
Faint o laeth a yfir gennym yn y DU?
Rydym yn prynu tua 5.2 biliwn litr o laeth hylif o’r archfarchnad neu’r dyn llaeth bob blwyddyn. Ar ben hynny, mae 6 biliwn litr yn mynd i greu cynnyrch llaeth fel caws, menyn a llaeth powdwr, sy’n elfen hanfodol o nifer o fathau eraill o gynnyrch bwyd. Yn gyfan gwbl, rydym yn prynu digon o gynnyrch llaeth bob blwyddyn i lenwi bron 4,500 o byllau nofio maint Olympaidd.