
Faint o laeth a gynhyrchir ym Mhrydain?
Mae ffermwyr llaeth Prydain yn cynhyrchu tua 11 biliwn litr o laeth bob blwyddyn – mae hynny’n ddigon i lenwi tua 4,500 o byllau nofio maint Olympaidd. Ym Mhrydain mae 5 biliwn litr o laeth hylif yn cael ei werthu i’w yfed ac mae 6 biliwn litr yn cael ei ddefnyddio i wneud caws, menyn a llaeth powdwr, sy’n elfen hanfodol o nifer o fwydydd eraill.