
Faint o fuchod sydd yna ar fferm arferol?
Mae ‘na ffermydd o bob siâp a maint yn y DU, o fuchesi bach i ffermydd sydd â dros 1,000 o fuchod, a nifer o systemau ffermio gwahanol, gan gynnwys rhai organig a chonfensiynol, pori a dan do.
Yn nhermau nifer y buchod, ydy hi’n wir bod ffermydd llaeth wedi cynyddu yn eu maint dros y blynyddoedd?
Mae’r data diweddaraf sydd ar gael, o 2012, yn dangos bod maint buches ar gyfartaledd ym Mhrydain yn 134 o fuchod (127 yn Lloegr; 117 yng Nghymru ac 157 yn Yr Alban). Yn 2000 roedd y nifer yn 84.