Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Ble mae buchod yn cysgu?

Ble mae buchod yn cysgu?

O ran natur, mae buchod yn fwy tebygol o hepian am ychydig na chysgu am gyfnodau hir, ond dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n hoffi ymlacio.  Gall buchod orwedd am hyd at 14 awr y dydd, felly mae angen iddyn nhw gael gwelyau cyfforddus (byddai’n braf petaen ni’n gallu gwneud yr un peth!)

Ar y rhan fwyaf o ffermydd llaeth Prydain, mae’r buchod yn pori allan yn yr awyr agored yn ystod yr haf ac yn cael eu cadw dan do dros y gaeaf.  Defnyddir dau brif fath o sied wartheg ym Mhrydain:  buarth gwellt agored sy’n cynnwys ardaloedd cymunedol i’r buchod orwedd ynddynt, a’r system corau rhydd, sydd â chorau gyda gwelyau unigol.  Mae’r ddwy system yn caniatáu i’r buchod orffwys, sefyll a symud o gwmpas fel y dymunant.