
Beth yw semen rhyw-benodol?
Gall semen rhyw-benodol helpu ffermwyr llaeth i wneud yn siŵr bod mwy o loi benyw’n cael eu geni. Fodd bynnag, mae’r gyfradd genhedlu fymryn yn is gyda semen rhyw-benodol, yn enwedig ymhlith buchod sy’n godro’n barod, felly fe’i hargymhellir yn bennaf ar gyfer heffrod sy’n lloia am y tro cyntaf. Am y rheswm hwn nid yw semen rhyw-benodol yn cael ei ddefnyddio mor aml â semen cyffredin ar hyn o bryd.
Gwyliwch ein fideo bridio buchod i ddysgu mwy.