
Beth yw pasbort gwartheg?
Mae’n siŵr na fyddai buwch laeth yn debygol o fynd ar wyliau i Sbaen, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes ganddi basbort.
Mae’r ddogfen yn unigryw i bob buwch a gall olrhain mam yr anifail, ei man geni ac unrhyw symudiadau trwy gydol ei hoes.
Mae gwybod o ble mae’r fuwch yn dod yn helpu’r ffermwr i’w rheoli’n fwy effeithiol.