Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Beth yw parlwr godro robotig?

Beth yw parlwr godro robotig?

Oni bai eich bod yn ffan mawr o ffuglen wyddonol, gall y darlun o robotiaid ar waith yng nghefn gwlad fod yn un digon estron.  Ond dydy’r holl beth ddim mor od ag y mae’n swnio – yn syml, mae parlwr godro robotig yn golygu system odro wirfoddol ar gyfer buchod.

Mae’r peiriannau godro’n cysylltu’n awtomatig â thethau’r fuwch ac yn troi eu hunain i ffwrdd pan fydd y godro wedi’i gwblhau.  Mae dyfais ddiogelwch yn sicrhau mai dim ond nifer penodol o weithiau y gellir godro’r fuwch mewn diwrnod, ac mae rhai buchod yn dewis cael eu godro pedwar neu bump o weithiau’r dydd.

Gwyliwch ein fideo am ffermwr sy’n defnyddio system godro robotig ar gyfer ei fuchod.