Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Beth yw parlwr godro cylchdro?

Beth yw parlwr godro cylchdro?

Mae’n siŵr mai hwn fyddai’r carwsél arafaf yn y ffair, ond mae parlwr godro cylchdro ychydig yn debyg i’r ‘ceffylau bach’ a geir yno.

Gyda pharlwr godro cylchdro mae’r fuwch yn sefyll ar lwyfan crwn uwchlaw’r ffermwr, sy’n caniatáu iddo osod y peiriant godro arni o islaw.  Mae’r llwyfan yn cylchdroi’n araf iawn, gan ganiatáu i’r buchod gamu ar, ac oddi ar y llwyfan ar adegau rheolaidd.

Gall godro mewn parlwr cylchdro gymryd llai o amser na mewn parlwr  saethben, yn enwedig ar ffermydd sydd â buchesi mawr.