
Beth yw parlwr godro ‘saethben’?
Petaech chi’n gallu gweld parlwr godro saethben o oddi fry, mi fyddech chi’n gweld sut y cafodd ei enw.
Mae’r parlwr hwn ar ffurf ‘saethben’ neu ‘gorff pysgodyn’, gyda’r peiriannau godro wedi’u gosod yn y canol – ‘asgwrn cefn’ y pysgodyn – rhwng dwy ystlys sydd â lle i’r buchod. Mae’r buchod yn dod i mewn i’r parlwr ac yn sefyll rhwng pob ‘asgwrn’, gan greu dwy res o fuchod.
Mae’r tîm godro’n symud i fyny ac i lawr y pydew islaw, gan osod y peiriant godro o’r ochr, ar lefel cadair y fuwch.