
Beth yw iard casglu?
Mae buchod yn greadur sy’n hoffi dilyn yr un drefn ac mi fyddan nhw’n gwybod pan fydd hi’n amser godro. Yn yr haf, bydd buchod sy’n pori allan yn aml yn aros wrth y gât i’r ffermwr eu casglu.
Dyna pryd y mae iard gasglu’n ddefnyddiol. Mae nifer o ffermwyr llaeth yn ddefnyddio’r ardal bwrpasol hon i gasglu’r buchod cyn eu godro, a dyma ble mae’r buchod yn aros eu tro ar adeg godro.