Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Beth yw cloffni?

Beth yw cloffni?

Gall cloffni effeithio ar nifer o anifeiliaid gan gynnwys buchod, ceffylau a defaid.  Gall buchod cloff fod mewn poen a chael trafferth cerdded, felly mae ffermwyr yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael triniaeth.  Maent hefyd yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac mae ‘triniaeth traed’ ar gyfer buchod yn dod yn arfer cyffredin ar ffermydd llaeth.  Mae hyn hefyd yn cynnwys y defnydd o offer tocio traed a baddonau traed.

Mae achosion o gloffni ymhlith gwartheg wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.