
Beth yw cig llo ‘rosé’ Prydeinig?
Cynhyrchir cig llo ‘rosé’ Prydeinig yn unol â’r safonau lles uchaf. Caiff y lloi eu bwydo â deiet naturiol sy’n cynnwys ffibr a llaeth cyflawn, a chânt eu magu mewn grwpiau o fewn siediau sydd â gwely gwair.
Mae hyn yn wahanol iawn i’r ffordd mae cig llo’n cael ei gynhyrchu ar gyfandir Ewrop, lle nad yw’r lloi’n cael fawr ddim bwyd solet ac fe’u cedwir yn aml ar loriau slatiog neu heb unrhyw wasarn.
Mae cig llo ‘rosé’ Prydeinig yn fwyd rhyddid achrededig a gefnogir gan Fforwm Cig Llo Adran Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU. Mae aelodau’r fforwm yn cynnwys yr RSPCA, y CIWF (Compassion in World Farming) a nifer o archfarchnadoedd mawr, sy’n stocio mwy a mwy o gig llo Prydeinig.