
Beth yw’r diciáu neu TB mewn gwartheg?
Mae TB Gwartheg yn destun dadlau ffyrnig, ac mae ‘na sawl barn wahanol ar y mater.
Mae tiwberciwlosis (TB) gwartheg yn glefyd cronig, heintus all effeithio ar bob anifail, gan gynnwys buchod llaeth. Oherwydd bod y clefyd yn un mor ddifrifol, mae ffermwyr yn cymryd gofal mawr i geisio lleihau’r risg ymhlith eu buchod.
Mae ymchwil wedi dangos mai un o brif achosion yr haint mewn gwartheg yw dod i gysylltiad â moch daear sydd wedi’u heintio. Mae ffermwyr yn gweithio’n galed i geisio cadw’u buchod a moch daear ar wahân, gan gynnwys cymryd camau i gadw moch daear allan o adeiladau a storfeydd bwyd ar y fferm.
Gallwch ddysgu mwy oddi wrth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar www.tbfreeengland.co.uk/ ac i glywed ffermwyr yn siarad am TB gwartheg, ewch i www.youtube.com/tbfreeengland.