Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Beth mae ffermwyr Prydain yn ei wneud i daclo mastitis?

Beth mae ffermwyr Prydain yn ei wneud i daclo mastitis?

Mae nifer yr achosion o fastitis, sef haint ar gadair/pwrs y fuwch laeth, wedi gostwng ers cyflwyno rhaglen ar draws y diwydiant cyfan, sy’n seiliedig ar ymchwil cadarn a wnaed dros ddeugain mlynedd yn ôl.

Mae’r DU wedi arwain y byd o ran rheoli mastitis ac mae ffermwyr llaeth wedi ymrwymo i ostwng y lefelau ymhellach.  I gydymffurfio â’r cynllun  Ffermydd Llaeth Gwarantedig  mae’n ofynnol bod gan ffermwyr gynllun iechyd  y fuches, sy’n cynnwys camau i atal mastitis, ac mae ffermwyr llaeth hefyd yn gweithredu cynllun rheoli ar draws y diwydiant  cyfan i’w helpu i adnabod y symptomau a gweithredu’n ddioed.