Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Beth mae buchod yn ei fwyta?

Beth mae buchod yn ei fwyta?

Mae buchod angen deiet blasus, cyson i gadw’n iach a hapus.  Meddai’r maethegwr buchod Tim Davies:  “Maen nhw angen deiet maethlon a chytbwys.  Os gall ffermwr gael hwnnw’n iawn, bydd yn gwella iechyd a lles y fuwch – a gall gynhyrchu mwy o laeth hefyd.” 

Mae’r rhan fwyaf o fuchod llaeth Prydain yn bwyta glaswellt yn ystod yr haf a silwair (glaswellt neu india-corn cadw) yn y gaeaf.  Fel arfer ychwanegir porthiant sych at hwn, megis grawnfwyd a bwydydd protein sy’n cynnwys fitaminau a mwynau ychwanegol.  Mae pob buwch laeth yn bwyta rhwng 25 a 50kg o fwyd y dydd ac mae angen cyflenwad cyson o ddŵr glân arni.

Mae faint mae’r fuwch yn ei fwyta’n dibynnu ar ei brid, ei hoedran a ph'un ai yw’n llaetha ai peidio, a dyna pam y mae nifer o ffermwyr yn cael cyngor arbenigol i ddatblygu’r deiet cywir.

Gwyliwch ein fideo maethegwr buchod  i ddysgu mwy.