Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Be sy’n digwydd i loi gwryw?

Be sy’n digwydd i loi gwryw?

Mae cydbwysedd natur yn golygu bod nifer cyfartal o loi gwryw a benyw’n cael eu geni i fuchod llaeth ar gyfartaledd.  Fel arfer, mae’r lloi benyw’n cael eu magu i ymuno â’r fuches laeth ac mae’r lloi gwryw un ai’n cael eu magu ar gyfer cig eidion, neu os yn addas, yn cael eu gwerthu ar gyfer cig llo.  Mae amcangyfrifon swyddogol yn dangos bod dros dri chwarter yr holl loi gwryw a enir o fewn diwydiant llaeth y DU yn cael eu magu ar gyfer cig eidion.

Mae nifer cynyddol o unedau magu lloi arbenigol yn cael eu datblygu.  Mae hyn yn digwydd am fod rhai manwerthwyr wrthi’n datblygu marchnadoedd amgen ar gyfer lloi gwryw, gan gynnwys  ‘’cig llo rosé Prydeinig  a bîff sy’n ystyriol o les yr anifail.

Mae rhai ffermwyr llaeth hefyd yn defnyddio  semen rhyw-benodol  i wneud yn siŵr bod mwy o loi benyw’n cael eu geni.

Pan na fydd unrhyw opsiynau ymarferol ar gael, yn anffodus, does gan ffermwyr ddim dewis ond difa eu lloi gwryw.