
Be sy’n digwydd i’r tail/dom a gynhyrchir ar ffermydd llaeth?
Gall dom/tail gwartheg neu slyri fod yn adnodd gwych i ffermwyr – mae’r wrtaith naturiol a maethlon sy’n helpu glaswellt a chnydau eraill i ffynnu.
Mae ffermwyr yn gwneud trefniadau gofalus ar gyfer symud, storio a chwalu’r dom/tail. Mae rhai’n casglu’r dom/tail ac yn ei wasgaru’n uniongyrchol ar y tir, ac mae eraill yn creu slyri, drwy gymysgu’r dom/tail â dŵr.
Fel arfer caiff slyri ei storio mewn tanc neu lagŵn am mai dim ond ar adegau arbennig o’r flwyddyn y gellir ei wasgaru. Defnyddir gwahanol ddulliau o wasgaru slyri ar y tir, gan gynnwys ei chwistrellu i’r pridd i’w helpu i gyrraedd gwreiddyn y planhigyn.
Mae rhai ffermwyr llaeth – yn enwedig y rhai sydd â ffermydd mwy o faint – yn defnyddio treulwyr anaerobig i droi dom/tail y buchod yn ynni. Mae’r treuliwr yn achosi i’r dom/tail ddadelfennu, sy’n cynhyrchu bio-nwy, sy’n bwydo generadur, sydd yn ei dro’n cynhyrchu trydan y gellir ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol.
Mae Liam Sinclair, Athro Gwyddor Anifeiliaid, yn egluro mwy am dreuliad anaerobig yn ein fideo am yr amgylchedd.