
O’r Fferm i’r Oergell
Pur anaml y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl sut mae llaeth yn cael ei gynhyrchu, neu am ei siwrnai o’r fferm i’r oergell.
Mae’r broses o gynhyrchu llaeth yn cychwyn gyda’r fuwch laeth – sef yr elfen bwysicaf o fferm laeth o bell ffordd.
Mae ffermwyr llaeth Prydain yn gwneud yn siŵr bod eu buchod yn cael y gofal gorau posib, gyda bwyd maethlon, digon o ddŵr a siediau a chaeau eang.
Mae buchod llaeth Prydain yn gwisgo tagiau clust sydd â rhif unigryw arnynt, sydd hefyd i’w weld ar y pasbort arbennig mae’r ffarmwr yn ei gadw ar gyfer pob buwch. Mae’r system yn helpu ffermwyr i gofnodi gwybodaeth bwysig, fel dyddiadau geni a ble mae’r buchod wedi bod ar hyd eu oes.
Does ‘mo’r fath beth a fferm laeth arferol mewn gwirionedd - mae ‘na ffermydd o bob siâp a maint ym Mhrydain, o fuchesi bach i ffermydd gyda dros 1,000 o fuchod, ac mae ‘na systemau ffermio gwahanol ar gael, gan gynnwys organig a chonfensiynol, pori a dan do.
Mae’r mwyafrif i’w gweld yn rhannau gorllewinol Ynysoedd Prydain lle mae’r hinsawdd gynnes, gwlyb yn darparu amodau delfrydol i dyfu glaswellt, sef hoff fwyd y fuwch.
Mae ffermydd llaeth yn defnyddio parlyrau godro modern. Fel arfer, y ffermwr a’i staff sy’n gweithio’r rhain, er bod rhai yn gwbl awtomataidd ac yn caniatáu i’r buchod ddewis pryd maen nhw am gael eu godro. Fel arfer, mae buchod llaeth yn cael eu godro ddwywaith y dydd - yn y bore ac eto yn y prynhawn, ac mae fferm gyfartalog yn y DU yn cynhyrchu tua 2,500 litr o laeth y dydd.
I gadw’r llaeth ar 4ºC - sef tua’r un tymheredd â’ch oergell chi gartref – caiff ei storio mewn tanc cyn cael ei gasglu gan dancer llaeth arbennig i’w gludo i’r llaethdy i’w brosesu.
Gall yr adran Ffermydd helpu i esbonio sut mae llaeth yn cael ei gynhyrchu ar fferm laeth nodweddiadol ym Mhrydain, neu gallwch wylio ein fideos i ddysgu mwy am y gwahanol systemau ffermio ym Mhrydain.