Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Llaeth

Llaeth

Rydym yn prynu tua 5.2 biliwn litr o laeth hylif o’r archfarchad neu’r dyn llaeth bob blwyddyn – sy’n cyfateb i 2,000 o byllau nofio maint Olympaidd.

Mae llaeth wedi bod yn rhan o’r ddeiet ddynol ers miloedd o flynyddoedd.  Mae’n un o’r bwydydd mwyaf maethlon sydd ar gael ac mae’n ffynhonnell naturiol o’r holl fitaminau a mwynau sydd eu hangen i gadw’n iach.

Yn anffodus, mae ‘na nifer o negeseuon cymysg mewn perthynas â llaeth, a nifer o fythau sy’n beio llaeth am wahanol anhwylderau.  Mae nifer o’r rhain wedi bod yn rhan o’n llên gwerin ers canrifoedd ac maent yn dal i gael eu hail-adrodd er eu bod yn anghywir a heb unrhyw sail wyddonol.

Mae’r  Cyngor Llaeth  yn darparu gwybodaeth wyddonol gadarn a ffeithiau am laeth a chynnyrch llaeth, gan chwalu rhai o’r mythau mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â llaeth.