
Diogelwch Bwyd
Mae ffermwyr llaeth Prydain yn gweithio’n galed i sicrhau bod y llaeth yn cael ei gynhyrchu yn ôl y safonau uchaf.
Heddiw, mae’n bwysicach nag erioed i wybod o ble mae eich bwyd yn dod. Mae 92% o holl ffermwyr llaeth y DU yn rhan o gynllun sicrwydd y Tractor Coch, sy’n gwarantu bod y llaeth neu’r cynnyrch llaeth a ddewisir gennych yn cwrdd â safonau uchel o ran diogelwch bwyd, amddiffyn yr amgylchedd ac iechyd a lles yr anifail.
Mae ffermwyr llaeth yn ymfalchïo yn y safonau uchel maent yn eu cynnal o ran diogelwch ac ansawdd bwyd ar draws y broses gynhyrchu. Gallwch eu cefnogi drwy ymuno a phrynu cynnyrch cynllun sicrwydd y Tractor Coch