Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Croeso i Dyma Ffermio Llaeth?

Croeso i Dyma Ffermio Llaeth?

Mae ffermio llaeth ym Mhrydain yn haeddu cael ei ddathlu – a dyna pam yn union y mae gennym Dyma Ffermio Llaeth. Oherwydd ffermwyr llaeth Prydain, gallwch fwynhau llaeth oer ffres ar eich grawnfwyd, cerdded i’r dafarn ganol y bore i gael cinio yno, mwynhau’r menyn hufennog ar eich taten bob amser swper, neu’ch siocled poeth blasus cyn mynd i’r gwely.

Oherwydd mae ffermio llaeth wir yn cyffwrdd â’n bywydau bob dydd, nid yn unig ein hamgylchedd, ond ein bwydydd hefyd.  Felly beth yw siwrnai’r cynnyrch blasus hwn o’r fferm i’r oergell? Bydd Dyma Ffermio Llaeth yn dangos i chi.  Mae’n dechrau gyda’r buchod llaeth eu hunain; cadw’r rhain yn hapus yw prif flaenoriaeth ffermwr llaeth – a dyna fywyd maen nhw’n ei gael!  Os nad ydyn nhw’n gorffwys ac yn cael trin eu traed yn rheolaidd, yna maen nhw’n bwyta ac yn cymdeithasu.  Mae hyd yn oed eu lloi yn cael eu meithrinfa’u hunain lle gallant chwarae gyda’u ffrindiau!

Dysgwch am fywyd buchod yn ein fideos: o’r hyn maen nhw’n ei fwyta a sut maen nhw’n bridio, i ble maen nhw’n cysgu – mae’r cyfan yma.  Hefyd, mae gennym gysylltiadau uniongyrchol â rhai o ffermwyr mwyaf blaenllaw’r wlad, er mwyn canfod beth yn union sy’n digwydd ar y fferm.  Darllenwch am yr holl ddigwyddiadau diweddaraf yn ein Dyddiadur Ffermwr rheolaidd.

Os ydych chi’n meddwl bod ffermio llaeth yn golygu casglu’r buchod a’u godro â llaw, meddyliwch eto; mae ffermio llaeth modern yn fwy technegol nag erioed o’r blaen.  Byddwn yn dangos yr holl ddatblygiadau newydd o fewn y diwydiant llaeth i chi, yn ogystal â rhoi rhai syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.  Mae ffermio llaeth wir yn broffesiwn cyffrous a gwerthchweil – hefyd, allwch chi ddim curo’r olygfa o’r ‘swyddfa’!

Wrth gwrs, y ffordd orau o ddysgu am y gwaith gwych mae ein ffermwyr yn ei wneud yw cymryd rhan.  Pam na gofrestrwch chi heddiw ar gyfer ein cylchlythyr ‘Moosflash’, neu ddilyn ni ar #discoverdairy, a gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr holl ddigwyddiadau ffermio a gwyliau bwyd sy’n digwydd yn eich ardal.  Gwisgwch eich welis ac i ffwrdd â chi!

Dyma Ffermio Llaeth.  Darganfod Llaeth yn eich bywyd bob dydd.