
Buwch y Mis
Mae pob un o’n buchod llaeth yn arbennig yn ei ffordd ei hun. Dysgwch y cyfan am ein merched yn ein gêm cardiau Trymp - y fersiwn Buchod Llaeth. Y mis hwn trown ein sylw at …. Daisy
Ebrill – Buwch y mis
Daisy yw supermodel y fuches. O oed ifanc iawn roedd hi’n eithriadol o hardd, a daeth yn drydydd yn ei dosbarth yn y sioe leol. Er gwaethaf ei llwyddiant fel model, mae ei charnau hi’n gadarn ar y borfa. Mae’n caru dweud helo wrth ymwelwyr a bydd yn dod draw os galwch chi ei henw. Mae Daisy’n rhannu’r fuches gyda’i merch, ei mam a’i chwaer.