
Adam Henson
Dwi’n cefnogi Discover Dairy – “mae hwn yn ddiwydiant modern, deinamig, sy’n cynhyrchu bwyd gwych o safon uchel dros ben.”
Pam dwi’n dewis cefnogi ffermio llaeth - "mae hwn yn ddiwydiant modern, deinamig sy’n cynhyrchu bwyd gwych o’r safon uchaf.”
Mae’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Adam Henson yn cefnogi Ffermio Llaeth ac yn eich annog chi, y cyhoedd ym Mhrydain, i ddysgu mwy am y diwydiant llaeth trwy gyfres o fideos ar-lein. Gydag ymchwil diweddar yn awgrymu bod ‘na ddiffyg gwybodaeth dychrynllyd ymhlith defnyddwyr ynghylch tarddiad bwyd, a chyda mwy a mwy o bobl yn holi o ble mae eu bwyd yn dod, mae’r ymgyrch ‘Discover Dairy’ yn eich annog i ddysgu a deall mwy am ffermio llaeth mewn ffordd ddifyr a dymunol.
Dywed Adam:
“Dwi’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda ffermwyr llaeth Prydain ar ymgyrch mor bwysig. Mae’n hanfodol bod ffermwyr llaeth yn lledaenu’r gair fod hwn yn ddiwydiant modern, deinamig, sy’n cynhyrchu bwyd gwych o’r safon uchaf. Rwy’n falch iawn o allu cefnogi ffermio llaeth ym Mhrydain - ry’n ni’n cynhyrchu peth o’r bwyd gorau yn y byd, gyda safonau lles uchel a systemau olrhain da. Mae’r ymgyrch ‘Discover Dairy’ yn golygu bod pobl yn dysgu mwy am yr holl bethau da mae ffermwyr llaeth yn eu gwneud, a dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i helpu.”
Mae’r fideos yn dilyn siwrnai llaeth o’r fferm i’r oergell, ac yn ateb unrhyw gwestiynau od sydd gan y plant am fuchod a ffermio; mae un hyd yn oed yn rhoi cipolwg 90 eiliad inni ar fywyd buwch – wedi’i ffilmio o bersbectif y fuwch ei hun.
Y dyddiau hyn mae’n bwysicach nag erioed gwybod bod y llaeth, caws a chynnyrch llaeth arall mae miliynau ohonom yn ei fwynhau bob dydd yn dod o ffynhonnell y gallwn ymddiried ynddi. Plîs ewch ati i gofrestru i gefnogi ffermwyr llaeth Prydain neu ymuno â’r sgwrs ar Twitter @thisisdairy
Adam Henson features in a new series of videos to help you #DISCOVERDAIRY - VIEW ALL