
Tractor Coch
Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig gwybod bod y bwyd a brynwch chi’n dod o ffynhonnell ddibynadwy. Trwy ymddiried yn y Tractor byddwch yn helpu i gefnogi ffermio llaeth ym Mhrydain a bwyd gwych!
Y tractor coch
Mae logo’r Tractor Coch ar becynnau’n gwarantu bod y bwyd neu’r cynnyrch llaeth a ddewiswyd gennych yn cwrdd â safonau llym o ran diogelwch bwyd, amddiffyn yr amgylchedd, ac iechyd a lles yr anifail. Mae llaeth Prydeinig sy’n rhan o gynllun sicrwydd y Tractor Coch o safon fyd-eang. Fe’i cynhyrchir ar ffermydd a reolir gan stocmyn hynod o broffesiynol, cymwys a gofalgar.
Mae Baner yr Undeb ar logo’r Tractor Coch yn gwarantu y gellir olrhain y cynnyrch yn ôl i ffermydd yn y DU. Mae logo’r Tractor Coch yn golygu bod modd olrhain y safonau a’r arferion ffermio da sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch. Felly pan fyddwch chi’n siopa am fwyd i’r teulu y tro nesa, ac eisiau tawelwch meddwl am y bwyd ry’ch chi’n ei brynu a’i fwyta, cofiwch ymddiried yn y Tractor Coch i’ch helpu i gefnogi diwydiant ffermio llaeth gwych Prydain yn ogystal â bwyd gwych!
Newyddion y tractor cochMae aelodau o dîm y Tractor Coch wedi ymuno â’r cerddor, arbenigwr bwyd ac amaethwr Alex James, i gymryd rhan yn The Big Feastival eleni, lle buon nhw’n annog y cyhoedd i ddysgu mwy am logo’r Tractor Coch a’i arwyddocâd. Ewch i wefan y Tractor Coch i ddysgu mwy am safonau sicrwydd bwyd a CHOFRESTRU ar gyfer ein cylchlythyr MOOSFLACH i gael gwybod am ddigwyddiadau pellach fel ‘The Big Feastival’ a newyddion a chystadlaethau’r diwydiant llaeth. |
|