
Sut allwch CHI gefnogi ffermio llaeth ym Mhrydain
Mae nifer fawr o ffermwyr llaeth wedi gweld pris eu llaeth yn gostwng yn ddramatig. Gofynnwn felly am eich cefnogaeth CHI i’r gwaith caled, y brwdfrydedd a’r ymrwymiad sy’n mynd mewn i bob diferyn o laeth a gynhyrchir.
Gallwch ddangos eich cefnogaeth i ffermwyr llaeth ym Mhrydain drwy wneud y pethau syml canlynol:
- Siaradwch â’ch manwerthwr a gofynnwch sut mae ei bolisi prynu’n cefnogi ffermio ym Mhrydain o ran pob math o gynnyrch llaeth?
- Y Tractor Coch - chwiliwch am logo ansawdd ar y pecynnau, nid ar laeth yn unig, ond ar gynnyrch arall fel menyn, caws ac iogyrt. Mae’r faner ar logo’r Tractor Coch, er enghraifft Jac yr Undeb, yn dangos tarddiad y cynnyrch. Dysgwch fwy
- Dysgwch fwy am ffermio llaeth yma ar y safle – darllenwch y tudalennau’n fanwl i ddysgu’r cyfan sydd ‘na i’w wybod am brofiadau, bywyd a gwaith go iawn ffermwr llaeth ym Mhrydain.
- Cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr ‘Moosflash’ i gael yr holl newyddion llaeth diweddaraf.
- Dilynwch ni ar Twitter - @thisisdairy i helpu i rannu’n negeseuon gyda theulu a ffrindiau. Ewch ati i drydar!