Dyma Ffermio Llaeth

News Search Menu
Sul y Fferm Agored

Sul y Fferm Agored

Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig deall o ble yn union mae ein bwyd yn dod a sut mae’n gwneud y siwrnai o’r borfa i’r bwrdd, ond ydych chi erioed wedi meddwl am ymuno â’ch ffermwyr lleol i ddysgu mwy am fywyd ar y fferm?  Wel, mae ’na gyfle i chi wneud hynny a dysgu mwy am ffermio yn ystod Sul y Fferm Agored.

Ers ei lansiad yn 2006, mae cannoedd o ffermwyr ar draws y DU wedi cymryd rhan yn y digwyddiad mawr hwn o fewn y diwydiant, gan groesawu’r cyhoedd i ffermydd o bob siâp a maint i rannu’u stori am fywyd ar y fferm.

Cynhelir Sul y Fferm Agored bob blwyddyn ym mis Mehefin, ac mae pob fferm sy’n cymryd rhan yn cynnig profiad unigryw.  Mi allech chi gael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn ystod y dydd, fel teithiau cerdded o amgylch y fferm i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid,  neu wylio buchod llaeth bendigedig yn cael eu godro neu’n chwarae gyda’i gilydd.  Mi allech chi fynd ar daith natur neu fwynhau taith tractor, ac mae rhai ffermydd hyd yn oed yn trefnu marchnad fferm  fach neu bicnic.  Beth bynnag yw’r profiad, mae’n ffordd wych o ddod i nabod eich ffermwyr lleol a dysgu mwy am y gwaith ardderchog a wnânt.

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau eleni ewch i www.openfarmsunday.org